Leviticus 14

Y seremoni ar ôl i rywun wella o glefyd heintus

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen:

“Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad. 3Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella 4bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop. 5Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo. 6Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd. 7Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd.

8“Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio ei gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod. 9Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.

10“Y diwrnod wedyn mae i gymryd dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd. 11Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhad yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr Arglwydd at fynedfa'r Tabernacl. 12Yno bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd a'i codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. 13Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd piau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.

14“Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. 15Wedyn mae'r offeiriad i gymryd peth o'r olew olewydd a'i dywallt i gledr ei law ei hun. 16Yna rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, a'i daenellu saith gwaith o flaen yr Arglwydd. 17Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw. 18Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw: 19bydd yn cyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod, i wneud pethau'n iawn rhwng y person â Duw a'i lanhau o'r cyflwr aflan oedd wedi bod ynddo. Yna bydd yr offeiriad yn lladd yr offrwm sydd i'w losgi. 20Bydd yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi a'r offrwm o rawn ar yr allor. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person â Duw, a bydd e'n lân.

21“Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw. Hefyd un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn. 22Hefyd dwy durtur neu ddwy golomen – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. 23Dylai fynd â nhw at yr offeiriad ar yr wythfed diwrnod, ar gyfer y ddefod o gael ei lanhau. Mae i fynd â nhw at fynedfa'r Tabernacl, o flaen yr Arglwydd.

24“Bydd yr offeiriad yn cymryd yr oen sy'n offrwm i gyfaddef bai, gyda'r olew olewydd, ac yn eu codi nhw'n uchel yn offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. 25Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. 26Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith. 27Yna gyda bys ei law dde mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr Arglwydd. 28Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw. 29Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw.

30“Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio). 31Mae un i'w gyflwyno yn offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw. 32Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.”

Tyfiant ffyngaidd mewn tŷ

33Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron:

34“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd gwlad Canaan, sef y wlad dw i'n ei rhoi i chi, os bydd tyfiant ffyngaidd yn un o'r tai, dyma beth sydd rhaid ei wneud: 35Mae perchennog y tŷ i fynd at yr offeiriad, a dweud, ‘Mae'n edrych fel petai rhyw dyfiant fel ffwng yn fy nhŷ i.’ 36Bydd yr offeiriad yn dweud fod rhaid gwagio'r tŷ cyn iddo fynd yno i'w archwilio, rhag i bopeth yn y tŷ gael ei wneud yn aflan. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yno i archwilio'r tŷ. 37Os bydd e'n darganfod tyfiant gwyrdd neu goch ar y waliau sy'n ddyfnach na'r wyneb, 38mae'r offeiriad i fynd allan o'r tŷ a'i gau am saith diwrnod. 39Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ 40mae'r offeiriad i orchymyn fod y cerrig oedd â'r tyfiant arnyn nhw i gael eu tynnu allan o'r waliau a'u taflu i le aflan tu allan i'r dre. 41Wedyn bydd yn trefnu i'r plastr ar y waliau gael ei grafu i ffwrdd i gyd. Bydd y plastr hefyd yn cael ei daflu i le aflan tu allan i'r dre. 42Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ail-blastro.

43“Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ail-blastro'r tŷ, 44mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan. 45Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael ei daflu mewn lle aflan tu allan i'r dre. 46Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi ei gau, yn aflan am weddill y dydd. 47A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad.

48“Ond os ydy'r offeiriad yn darganfod fod y tyfiant heb ddod yn ôl i'r tŷ ar ôl iddo gael ei ail-blastro, bydd e'n cyhoeddi fod y tŷ yn lân – mae'r drwg wedi mynd. 49Ac er mwyn dangos fod y tŷ yn lân, bydd e'n cael dau aderyn, darn o bren cedrwydd, edau goch a brigau o isop. 50Bydd yn lladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo. 51Wedyn rhaid iddo gymryd y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'r aderyn sy'n dal yn fyw, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd a'r dŵr, ac yna taenellu'r tŷ saith gwaith gydag e. 52Dyna sut y bydd e'n glanhau y tŷ gyda gwaed yr aderyn gafodd ei ladd, y dŵr, yr aderyn byw, y darn o bren cedrwydd, y brigau o isop a'r edau goch. 53Yna bydd yn gadael i'r aderyn byw hedfan i ffwrdd allan o'r dre. Dyna sut y bydd e'n gwneud y tŷ yn lân ac yn iawn i fyw ynddo eto.

54“Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag unrhyw glefyd heintus, ffafws, 55llwydni mewn dilledyn, neu dyfiant ffyngaidd mewn tŷ, 56chwydd neu rash neu smotyn. 57Dyna sut mae gwahaniaethu rhwng y glân a'r aflan. Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag afiechydon heintus.”

Copyright information for CYM